Mesh ID

Geirfa meddygol wedi'i rheoli'n dynn er mwyn cysondeb a dilysrwydd ydyw Medical Subject Headings (MeSH). Caiff ei defnyddio i greu ambell i fynegai neu fel thesawrws sy'n hwyluso'r gallu i syrffio am y wybodaeth neu ddiffiniad meddygol cywir. Crewyd a chedwir Mesh gan Lyfrgell Meddygol (Cenedlaethol) yr Unol Daleithiau a chaiff ei defnyddio gan MedlinePlus ayb.

Nid oes tâl am fynediad i Mesh, nac am y defnydd o'r wybodaeth a geir ynddi. Daethpwyd a'r ffurf papur i ben yn 2007. Er mai Saesneg ydy iaith wreiddiol y wybodaeth, mae hi, bellach, wedi ei chyfieithu i sawl iaith arall.


© MMXXIII Rich X Search. We shall prevail. All rights reserved. Rich X Search